Cymraeg

Triathlon Llanc Y Tywod Ynys Mon
Dydd Sul Medi 16fed 2012

Mi fydd Triathlon llwyddianus iawn Llanc Y Tywod Ynys Mon yn cael ei gynnal eto yn 2012, mae'n cael ei gynnal ar ddydd Sul Medi 16fed (yn cychwyn 10.00yb). Hwn yw'r ail yn y gyfres sydd yn dechrau gyda Triathlon Llanc Y Llechi,  Eryri, Mai 20ain 2012, a oedd hefyd yn hynod o lwyddianus yn 2011.

Coedwig Niwbwrch bydd man cyfarfod y ras, y cychwyn a'r diwedd mewn ardal unigryw o fewn coedwig 700 ha sydd gyfagos a traeth Llanddwyn. Mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, bydd golygfeydd ar hyd llwybr y ras yn syfrdanol, mae'r ras yn cynnig sialens arbennig i bob un - beth bynnag fo'u safon ffitrwydd a'u profiad.

Mae Triathlon Llanc Y Tywod Ynys Mon yn cynnwys dau bellter, Llanc Y Tywod llawn neu Llanc Y Tywod sbrint.  Gallwch hefyd gystadlu fel tim cyfnewid o dri yn y ddau bellter.

Dyma ddisgrifiad o'r ddau bellter:

Llanc Y Tywod Llawn

  • 1000m - Nofio Mor oddiar Draeth Llanddwyn
  • 60 km - Beicio ar y ffordd llwybr cylchog yn mynd a'r beicwyr trwy Llanfairpwllgwyngyll ac yn ol ar hyd arfordir gorllewinol Ynys Mon
  • 10 km - Rhedeg Traws Gwlad ar hyd llwybrau Coedwig Niwbwrch, twyni a traeth Llanddwyn

Llanc Y Tywod Sbrint

  • 400m - Nofio Mor oddiar Draeth Llanddwyn
  • 18 km - Beicio ar y ffordd yn cychwyn allan tuag at Llanfairpwll ac yn ol trwy Llangaffo
  • 5 km - Rhedeg Traws Gwlad eto ar hyd llwybrau Coedwig Niwbwrch, twyni a traeth Llanddwyn

Cofrestrwch ar unwaith i sicrhau eich lle - mae lleoedd yn brin!

 

 

Llyniau © Ray Wood www.snowdonia-active.co.uk